Cefnogi'r Gymraeg - Investing in Welsh
Rydym wedi datgan ein
bod wedi cyrraedd y deg ymrwymiad sy'n rhan o gynllun
'Cefnogi'r Gymraeg' Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac wedi cyrraedd safon
gofynnol Polisi Iaith Gymraeg
Achrededig.
Gyda chewch o swyddfeydd, mae Walker Smith Way
yn un o'r cwmnïau cyfreithiol mwyaf ac uchaf ei
barch yn y rhanbarth. Cwmni o arbenigwyr ydym; mae pob
un o'n cyfreithwyr yn arbenigo yn eu meysydd eu hunain o'r
gyfraith, gan sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor proffesiynol
diweddaraf.
Wedi ein sefydlu ers dros gan mlynedd a hanner,
rydym yn falch o fod yn gwmni modern a blaengar. Mae gennym enw
rhagorol am ddarparu gwasanaeth egwyddorol a phersonol i'n
cleientiaid - mewn ffordd agos atoch a
chyfeillgar.
Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cyfreithiol
proffesiynol i unigolion a'u teuluoedd, ac rydym yn
falch o gynrychioli nifer o Undebau Llafur, gan ddarparu cyngor a
chymorth cyfreithiol i aelodau
Undeb.
Mae ein cwmni o'r fath faint a graddfa fel y gallwn
gynnig cyngor ynghylch ymron unrhyw fater
cyfreithiol.