Cefnogi'r Gymraeg - Investing in Welsh

Investing in WelshRydym wedi datgan ein bod wedi cyrraedd y deg ymrwymiad sy'n rhan o gynllun 'Cefnogi'r Gymraeg' Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac wedi cyrraedd safon gofynnol Polisi Iaith Gymraeg Achrededig.

Gyda chewch o swyddfeydd, mae Walker Smith Way yn un o'r cwmnïau cyfreithiol mwyaf ac uchaf ei barch yn y rhanbarth. Cwmni o arbenigwyr ydym; mae pob un o'n cyfreithwyr yn arbenigo yn eu meysydd eu hunain o'r gyfraith, gan sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor proffesiynol diweddaraf.

Wedi ein sefydlu ers dros gan mlynedd a hanner, rydym yn falch o fod yn gwmni modern a blaengar. Mae gennym enw rhagorol am ddarparu gwasanaeth egwyddorol a phersonol i'n cleientiaid - mewn ffordd agos atoch a chyfeillgar.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cyfreithiol proffesiynol i unigolion a'u teuluoedd, ac rydym yn falch o gynrychioli nifer o Undebau Llafur, gan ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol i aelodau Undeb.

Mae ein cwmni o'r fath faint a graddfa fel y gallwn gynnig cyngor ynghylch ymron unrhyw fater cyfreithiol.