Polisi Cymraeg - Welsh Policy
Ymrwymiadau Cefnogi'r
Gymraeg
Dyma'r ymrwymiadau y disgwylir i fusnesau eu cyflawni fel rhan o
gynllun
Egwyddorion
1. Sail
Cydraddoldeb
Rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal, cyn
belled ˆa bod hynny'n rhesymol ac yn ymarferol.
2.
Amlieithrwydd
Os byddwn yn cynnig gwasanaeth amlieithog yng Nghymru,
byddwn yn sicrhau bod y Gymraeg yn un o'r ieithoedd sydd ar gael
ochr-yn-ochr â'r Saesneg.
Cyfathrebu
3. Cyfathrebu yn
ysgrifenedig
Rydym yn croesawu ymholiadau ysgrifenedig yn y Gymraeg.
Byddwn yn cynnal gweddill yr ohebiaeth honno yn y Gymraeg, ac yn
sicrhau bod safon ein gwasanaeth yn y Gymraeg cystal â'n gwasanaeth
yn y Saesneg wrth wneud hynny.
4. Cyfathrebu ar
lafar
Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yng Nghymru yn gwrtais
wrth ymateb i ymholiadau yn y Gymraeg. Rydym yn dangos ein bod yn
croesawu'r defnydd o'r Gymraeg drwy annog ein staff dwyieithog i
ddefnyddio logo Iaith Gwaith wrth eu gwaith.
Delwedd Gyhoeddus
5.
Arwyddion
Rydym yn sicrhau bod arwyddion parhaol newydd yn
ddwyieithog. Byddwn yn cynyddu ein defnydd o'r Gymraeg ar arwyddion
dros dro.
6. Delwedd gorfforaethol
Byddwn yn defnyddio mwy o Gymraeg wrth hysbysebu a
marchnata yng Nghymru. Lle bo'n briodol, byddwn yn tynnu sylw at
ein defnydd o'r Gymraeg trwy ddefnyddio Marc Cefnogi'r Gymraeg ar
ein deunydd hysbysebu a marchnata dwyieithog.
Staffio a'r Gweithle
7. Sgiliau iaith
Gymraeg
Rydym yn adnabod a gwerthfawrogi'r gallu i siarad Cymraeg
fel sgil sydd yn ddefnyddiol wrth weithio yng Nghymru.
8. Defnydd o'r Gymraeg
yn y gweithle
Rydym yn croesawu defnyddio'r Gymraeg gan ein staff yng
Nghymru, heblaw mewn rhai amgylchiadau ffurfiol a phenodol. Os
byddwn am i'n staff ddefnyddio'r Saesneg yn unig, byddwn yn esbonio
yn glir pam ein bod yn gwneud hynny.
Polisi
9. Polisi iaith Gymraeg
Byddwn yn paratoi Polisi Iaith Gymraeg ysgrifenedig.
10.
Ymwybyddiaeth
Pan fydd gennym Bolisi Iaith Gymraeg, byddwn yn dwyn y
ddogfen i sylw ein holl staff yng Nghymru, ac yn sicrhau bod y
cyhoedd yn medru ei darllen yn gyfleus.
The Investing in Welsh Commitments
Businesses are expected to meet the
following commitments as part of the Investing in Welsh scheme:
Principles
1. Basis of
Equality
We treat Welsh and English on an equal basis, so far as is
reasonable and practicable.
2.
Multilingualism
If we offer a multilingual service in Wales, we will ensure that
Welsh is one of the languages available alongside English.
Communication
3. Written
communication
We welcome written enquires in Welsh. We will reply and conduct
the remainder of that correspondence in Welsh, and we will ensure
that in doing so our service in Welsh is as good as our service in
English.
4. Verbal
communication
We ensure that all our staff in Wales respond politely to Welsh
language enquiries. We show that we welcome the use of Welsh by
encouraging our bilingual staff to use the Working Welsh logo at
work.
Public image
5. Signs
We ensure that new permanent signs are bilingual. We will increase
our use of Welsh on temporary signs.
6. Corporate image
We will use more Welsh in our advertising and marketing
in Wales. Where appropriate, we will promote our use of Welsh by
using the Investing in Welsh Mark on our bilingual advertising and
marketing materials.
Workplace and skills
7. Welsh Language Skills
We recognise and appreciate the ability to speak Welsh as
a skill which is useful when working in Wales.
8. Using Welsh at work
We welcome the use of Welsh by our staff in Wales, except
in certain formal or specific situations. If we require our staff
to use English only, we will explain clearly why we are doing
so.
Policy
9. Welsh Language Policy
We will prepare a written Welsh Language Policy.
10. Awareness
When we have a Welsh Language Policy, we will draw it to
the attention of all our staff in Wales, and we will ensure that it
is easily available for the public to read.